Header Image for Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr

ATYNIADAU CEULANAMAESMAWR

I’r sawl sydd am ddysgu rhagor am y gymuned a’i hanes, mae Paneli Dehongli wedi eu gosod ar bwys y Patshyn Glas yn Nhal-y-bont ac o flaen Ficerdy  Bont-goch. Hefyd mae modd canfod llawer rhagor o wybodaeth am hanes gweithfeydd mwyn yr ardal ar wefan

Ysbryd y Mwynwyr


Pentref Tal-y-bont ag Allt-y-Crib wedi ei dynnu o Braich Garw.
(Llun: Gwyn Jenkins)


Pentref Bont-goch a'r bryniau cyfagos wedi ei dynnu o Fynydd Gorddu.
(Llun: Richard E. Huws)

Sioe Tal-y-bont 

Dyma’r digwyddiad mwyaf yng nghalendr blynyddol cymuned Ceulanamaesmawr am ragor na 100 mlynedd. Sioe amaethyddol a garddwriaethol yw hi yn bennaf ac fe’i cynhelir ar Gaeau'r Llew Du, Tal-y-bont ar ddydd Sadwrn yn niwedd mis Awst bob blwyddyn. Mae’n denu cystadleuwyr niferus o bell ac agos i’r adrannau da byw a hefyd i’r adrannau garddwriaethol. Ond nid dyma’r unig atyniadau i’r rhai sy’n dod i’r sioe chwaith gan fod yno gystadlaethau cneifio, sioe gwn, arddangosfa o hen beiriannau, stondinau amrywiol a phabell grefftau, ac yna i gloi’r dydd rasys cwn. Er mwyn gwerthfawrogi bywiogrwydd a brogarwch yr ardal  'does unman yn well i ddechrau na chaeau'r Llew Du ar ddiwrnod y sioe. Ceir rhagor o wybodaeth am fwrlwm y sioe ar facebook.

Allt y Crib[SN653 895]

Coedwig i’r gorllewin o bentref Tal-y-bont. Plannwyd y coed yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif gan guddio creithiau’r hen weithfeydd mwyn oedd yn hagru’r bryncyn. Heddiw, mae rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau ceffyl poblogaidd yn croesi’r goedwig.

Bedd Taliesin[SN670 911]

Carn a godwyd, mae’n fwyaf tebyg, yn ystod yr Oes Efydd. Cyfeirir at y bedd  mewn chwedlau gwerin fel man claddu Taliesin, bardd Cymraeg o’r chweched ganrif, neu’r Taliesin chwedlonol. O’r llecyn hwn ceir golygfeydd godidog o aber afon Dyfi a Bae Ceredigion.  (Ceir llawer rhagor o wybodaeth ar wefan Llangynfelyn).

Braichgarw[SN664 885]

Tir comin rhyw hanner milltir i’r dwyrain o bentref Tal-y-bont. Am genedlaethau lawer, byddai plant a phobl ifanc y pentref yn dod i’r llecyn hwn i fwynhau picnic neu i ymdrochi yn afon Eleri. Mae llwybr troed o’r  Borth i Bontarfynach yn croesi Braichgarw.

Caer Llety Llwyd[SN650 882]

Bryngaer sy’n dyddio o’r Oes Haearn ar dir fferm Llety Llwyd, rhyw hanner milltir i’r de-ddwyrain o bentref Tal-y-bont. Mae Pen Dinas yng Nghwm Eleri [SN677 876] a Pen y Castell, Llety Ifan Hen, Bont-goch [SN689 848] yn ddwy fryngaer arall llai adnabyddus ond mewn lleoliadau llawer iawn mwy dramatig na Chaer Llety Llwyd.

Chwarel yr Hafan[SN730 831]

Hen chwarel wenithfaen wedi ei lleoli ym mhen uchaf Cwm Cyneiniog, rhyw bum milltir i’r dwyrain o bentref Tal-y-bont. Am gyfnod byr iawn yn yr 1890au defnyddiwyd Lein yr Hafan i gludo cerrig o’r chwarel i bentref Llandre, rhyw saith milltir i ffwrdd. Hyd heddiw, mae modd olrhain llwybr yr hen lein drwy’r cwm islaw’r chwarel. 

Eglwys Sant Pedr Elerch (Bont-goch)[SN684 864]

Saif yr Eglwys nodedig hon, a agorwyd yn 1868, ym mhentref Bont-goch. Y Parchedig Lewis Gilbertson dalodd am ei hadeiladu, i wasanaethu’r mwynwyr a denwyd i’r ardal am waith. Fe’i cynlluniwyd gan William Butterfield, un o benseiri’r adfywiad Gothig Fictorianaidd yn ail hanner y 19eg ganrif.

 

 Fferm Wynt Mynydd Gorddu[SN731 880]

Codwyd 19 o dwrbinau gwynt yn niwedd y 1990au ar yr ucheldir rhwng Bont-goch a Thal-y-bont i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Breuddwyd y diweddar Dr Dafydd Huws, fferm Mynydd Gorddu, oedd y datblygiad hwn, ac ar waethaf gwrthwynebiad rhai o’r trigolion lleol mae’r fferm wynt bellach yn rhan annatod o’r tirwedd. Mae cymdeithasau a sefydliadau cymunedau cyfagos yn elwa’n ariannol o Gronfa Eleri, a sefydlwyd gan gwmni Ynni Amgen i gefnogi prosiectau i hybu bywyd cymdeithasol, addysgol a diwylliannol cynhenid yr ardal.

Gwaith Bwlch Glas[SN710 877]

Mae olion y gwaith mwyn hwn, a sefydlwyd yn y 1880au, i’w gweld yn amlwg iawn o hyd wrth deithio ar droed neu mewn cerbyd drwy Gwm Cyneiniog. Erbyn ail ddegawd yr ugeinfed ganrif, roedd yn un o’r gweithfeydd mwyn mwyaf modern yn Ewrop. Daeth y cloddio i ben yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan welwyd gostyngiad sylweddol mewn prisiau plwm a sinc.

Gweithfeydd Mwyn Esgair Hir ac Esgair Fraith[SN738 912]

Ardal sy’n gyfoethog o archaeoleg diwydiannol, yn sgil y ddau waith mwyn yn yr ucheldir y tu draw i Gwm Ceulan; gwelir hefyd farics Esgair Fraith, lle byddai llawer o’r mwynwyr yn lletya yn ystod yr wythnos waith. Olion llai amlwg yw’r clwstwr o ‘lynnoedd’ – Nant y Cagl, Plas y Mynydd, Conach a Dwfn – a’r rhwydwaith o ffosydd pwrpasola adeiladwyd i gronni a chyflenwi dwr i’r gweithfeydd mwyn.   

Llyn Craig y Pistyll[SN721 858]

Yn wreiddiol, adeiladwyd argae yn y fan hon yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg  i gronni dwr i’r gweithfeydd mwyn cyfagos. O ddiwedd y 1930au defnyddiwyd y dwr i gyflenwi cartrefi ardaloedd gwledig i’r gogledd o Aberystwyth, ac yna yn y 1960au cynnar cafodd y llyn ei uno â Llyn Llygaid Rheidol i gyflenwi cartref Aberystwyth ac ardaloedd gwledig gogledd Ceredigion. Mae llwybr troed o bentref Bont-goch yn arwain at y llyn, gyda’r chwarter milltir olaf yn ddringfa serth sy’n cynnig golygfa ddramatig iawn o raeadr wrth i afon Eleri blymio o’r ucheldir i’r cwm islaw.  

Moel y Llyn[SN711 914]

Hwn yw’r man uchaf yng Ngheulanamaesmawr (515 metr), ac fel yr awgryma’r enw mae llyn ar y copa. Ar ddiwrnod clir, ceir golygfeydd godidog o Gwm Eleri a Bae Ceredigion o’r fan hon.

Nant y Moch [SN74 1877]

Dechreuwyd y gwaith o godi argae ar draws afon Rheidol wrth odre Pumlumon Fawr ar ddiwedd y 1950au, a hynny i gronni dŵr ar gyfer Cynllun Trydan Hydro Cwm Rheidol. Cyn boddi Cwm Nant y Moch yn 1964 bu’n rhaid i ddau frawd, John a Jim James, adael eu tyddyn a chaewyd capel y cwm. Heddiw mae Nant y Moch yn atyniad poblogaidd gan ymwelwyr sy’n mwynhau’r daith ar hyd y ffordd fynydd ar lan y llyn, ac yn arbennig wrth yrru oddi yno i Dal-y-bont heibio Bwlch y Garreg a Chwm Ceulan. 

 Y Patshyn Glas [SN655892]

Mae Tal-y-bont yn un o ychydig iawn o fannau yn y rhan hon o Gymru sy’n medru ymfalchïo yn y ffaith bod yna lain o dir agored yng nghanol y pentref. Gyda dwy dafarn – y Llew Du a’r Llew Gwyn – ar ei bwys, y llecyn hwn yw calon y pentref, yn enwedig ar nosweithiau braf o haf.