Header Image for Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr

Ardal Ceulanamaesmawr

Mae’r ardal wedi ei lleoli yng ngogledd Ceredigion, rhwng llethrau Pumlumon i’r dwyrain a Chors Fochno i’r gorllewin. Saif pentref Tal-y-bont, prif ganolfan y gymuned, rhyw 7 milltir i’r gogledd o Aberystwyth ac 11 milltir i’r de o dref Machynlleth, Powys. Ffurfiwyd enw’r Cyngor trwy gyfuno enwau dwy o afonydd y fro, afon Ceulan ac afon Maesmawr, sy’n llifo i mewn i’r Eleri, prif afon Ceulanamaesmawr.

Tyfodd y pentref yn ganolfan ddiwydiannol ffynniannus yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan godwyd melinau gwlân ar lannau’r afonydd, ac ar ôl i gyfalafwyr mentrus agor nifer helaeth o weithfeydd mwyn yn y cymoedd a’r bryniau cyfagos.

Cyn canol yr ugeinfed ganrif roedd y diwydiannau traddodiadol hyn wedi diflannu, a’r unig ddiwydiant o bwys yn y pentref bellach yw Y Lolfa, sy’n un o brif gwmnïau cyhoeddi llyfrau Cymru. O ganlyniad, mae canran uchel o’r trigolion yn cymudo’n ddyddiol i’w gwaith yn Aberystwyth a mannau eraill y tu hwnt i ffiniau Ceulanamaesmawr. Ond mae yna hefyd tua 25 o ffermydd teuluol llwyddiannus yn yr ardal, ac mae bri ar weithgareddau amaethyddol megis y Sioe flynyddol a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.

Yng nghanol pentref Tal-y-bont heddiw ceir gwesty; tybwyta trwyddedig; siop/swyddfa bost; garej; salon trin gwallt; ysgol gynradd; dau gapel; eglwys a neuadd bentref. Yn yr ardal ceir hefyd nifer dda o gymdeithasau amrywiol a chlybiau chwaraeon.

Er bod y canran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng ers y 1950au, mae’r Gymraeg yn parhau’n iaith hyfyw yn y gymuned ac yn iaith cyfathrebu y rhan helaethaf o’r sefydliadau lleol megis yr ysgol gynradd, y capeli, pwyllgorau’r Sioe a’r Neuadd a’r papur bro, Papur Pawb.